Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gorffennaf 2014
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol ar gyfer y Bil Dadreoleiddio o ran diwygiadau i’r Bil
mewn perthynas â deddfwriaeth ynglŷn â
blaendaliadau tenantiaeth
1. Ar 8 Gorffennaf 2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i wahodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Dadreoleiddio o ran diwygiadau i’r Bil mewn perthynas â deddfwriaeth ynglŷn â blaendaliadau tenantiaeth.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 2 Hydref 2014.